Mae argae wedi gorlifo’i glannau yn Cenia, gan ladd beth bynnag 21 o bobol a gorfodi cannoedd o bobol i adael eu cartrefi.

Mae heddlu lleol wedi cadarnhau y digwyddiad yn argae Patel yn Solai yn sir Nakuru, a bod cannoedd o gartrefi wedi’u sgubo ymaith gan y dyfroedd.

Ymhlith y llefydd sydd wedi’u heffeithio y mae fferm eang Nyakinyua, sy’n ffinio â’r argae.

Mae’r digwyddiad yn ychwanegu at y nifer uchel o bobol sydd eisoes wedi’u lladd yn Cenia o ganlyniad i lifogydd yn ystod tymor y glaw.