Mae dau ddaeargryn wedi taro ynys fwyaf Hawaii gerllaw ffrwydrad llosgfynydd a oedd wedi gorfodi bron i 2,000 o bobl adael eu cartrefi.

Roedd trigolion o gwmpas llosgfynydd Kilauea eisoes yn wynebu peryglon llif o lafa, creigiau poeth yn chwalu a lefelau uchel o nwy sylffwrig.

Er nad yw’r maes awyr na’r ffyrdd wedi cael eu difrodi, roedd ysgytwad cryf wedi ei deimlo dros ardal eang, sydd wedi ychwanegu at bryderon trigolion.

Kilauea yw un o losgfynyddoedd mwyaf ansefydlog y byd, ac mae wedi bod yn ffrwydro’n gyson ers 1983 a’r cymunedau o’i gwmpas wedi profi ei ddinistr sawl gwaith.

Ynys Hawaii yw’r fwyaf o ddigon o ynysoedd Hawaii yn y Môr Tawel, er mai Oahu yw’r ynys fwyaf poblog.