Mae’r grŵp cenedlaetholgar Basgaidd, ETA, wedi rhoi’r gorau i’w hymgyrch arfog a’u hymdrechion gwleidyddol tros Wlad y Basg annibynnol.

Mewn llythyr agored i bobol Gwlad y Basg dywedodd ETA na fyddan nhw’n “cyfleu safiadau gwleidyddol bellach” a’u bod wedi “datgymalu pob un o’u strwythurau”.

Yn ogystal, mae’r llythyr yn nodi y bydd cyn-aelodau  yn parhau i ymgyrchu tros “wlad unedig, annibynnol, sosialaidd, heb batriarchaeth ac sy’n siarad Basgeg”.

Ond, nid dan faner ETA y byddan nhw’n gwneud hynny.

ETA

Mae ETA yn sefyll am ‘Euskadi Ta Askatasuna’ – neu ‘Mamwlad Gwlad y Basg a Rhyddid’ – a chawson nhw eu sefydlu yn 1959.

Cafodd cannoedd o bobol eu lladd gan y grŵp, trwy ymosodiadau arfog.