Mae dros 10,000 o grwbanod prin wedi’u hachub o dŷ ym Madagasgar gan weithwyr cadwraeth.

Fe ddaeth yr awdurdodau yn y wlad o hyd i’r crwbanod bychain mewn cartref yn Toliara ar Ebrill 10, ac mae lle i gredu eu bod nhw wedi cael eu casglu er mwyn eu gwerthu’n anghyfreithlon i Asia.

Fe gawson nhw eu darganfod mewn cyflwr truenus, heb na dŵr na bwyd ganddyn nhw.

Mae’r crwbanod bellach wedi’u rhoi yng ngofal Y Gynghrair Achub Crwbanod, ynghyd â grwpiau eraill, mewn safle cadwraeth bywyd gwyllt yn ardal Ifaty.

Yn ôl y Gymdeithas Cadwraeth Bywyd Gwyllt, mae nifer o’r crwbanod a oroesodd mewn cyflwr “eitha’ iach”, er bod nifer wedi marw o ddiffyg dŵr a bwyd.

Mae’r crwbanod prin, sy’n cael eu galw’n radiated tortoises, yn enwog am fod â phatrwm seren ar eu cragen.