Mae talaith Nova Scotia yn cyflwyno platiau rhifau cofrestru ceir yng Ngaeleg yr Alban mewn ymgais i ehangu’r iaith yno.

Cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi ddydd Mawrth mewn digwyddiad i nodi dechrau Mis Nova Scotia Aeleg.

Fe fydd y platiau newydd yn cynnwys y geiriau ‘Alba Nuadh’ – neu ‘Alban Newydd’ (Nova Scotia). Fe fydd yr arian o’r platiau’n cael ei neilltuo ar gyfer mentrau i hybu’r iaith a’r diwylliant Gaeleg.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gaeleg, Randy Delorey y bydd y cynlluniau’n “galluogi mwy o bobol i ailgysylltu â’u haith, eu diwylliant a’u treftadaeth, ac yn eu cynnal nhw ar gyfer y genhedlaeth nesaf”.

Mae lle i gredu bod 2,000 o siaradwyr yr iaith yn Nova Scotia, ond mae mwy na 230,000 o dras Aelig.