Mae tri pherson wedi cael eu harestio ar amheuaeth o baratoi gweithred frawychol yn Sweden.

Cafodd y bobol eu harestio mewn sawl man gwahanol yn ninas Stockholm, ddydd Llun (Ebrill 30).

Dydy lefel bygythiad brawychol  Sweden heb godi yn sgil yr arestiadau – mae’n parhau ar lefel tri o bump.

Mae papurau newydd yn Sweden yn adrodd bod un o’r unigolion yn hanu o Uzbekistan.

Ym mis Ebrill 2017, mi wnaeth dyn o’r wlad honno ddwyn cerbyd a’i yrru mewn i dorf yn Stockholm gan ladd pump o bobol ac anafu 14 arall.

Roedd y dyn wedi cyflawni’r ymosodiad er mwyn cosbi Sweden am frwydro yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd yn y Dwyrain Canol.