Mae 25 o bobl wedi’u lladd yn Kabul y bore ma mewn dau ymosodiad gan hunan-fomwyr.

Roedd ffotograffydd gydag asiantaeth newyddion Agence France-Presse (AFP) a dyn camera yn gweithio i orsaf deledu leol ymhlith y meirw, ynghyd a phedwar plismon, meddai swyddogion yn Afghanistan.

Cafodd o leiaf 45 o bobl eraill eu hanafu.

Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ond mae’r Taliban a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi cynnal sawl ymosodiad yn Kabul.

Yn ôl Agence France-Presse roedd eu ffotograffydd yn Kabul, Shah Marai, wedi marw mewn ymosodiad a oedd yn targedu grŵp o newyddiadurwyr a oedd wedi rhuthro i safle’r ymosodiad bom cynharach yn y brifddinas.

Roedd hunan-fomiwr ar feic modur wedi ffrwydro’r bom cyntaf cyn i ail hunan-fomiwr ymuno a’r grwp o newyddiadurwyr oedd wedi mynd i’r safle, a ffrwydro ei ddyfais.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ardal Shash Darak lle mae pencadlys Nato a nifer o lysgenadaethau yn Afghanistan.