Mae Gweinidog Amddiffyn Israel wedi dweud y bydd ei wlad yn taro’n ôl pe tai Iran yn ymosod arni.

Wrth siarad â’r gwasanaeth newyddion Arabaidd, Elaph, fe ddywedodd Avigdor Lieberman fod nifer o “fygythiadau” wedi cael eu gwneud gan Iran yn ddiweddar.

“Ond os byddan nhw’n taro Tel Aviv,” meddai, “fe fyddwn ni’n taro Tehran.”

Daw’r sylwadau hyn tra bo’r gweinidog yn yr Unol Daleithiau ar gyfer trafodaethau â swyddogion yr adran Amddiffyn yn y wlad honno.

Mae tensiynau wedi cynyddu rhwng Israel ac Iran yn ddiweddar yn sgil yr ymosodiad ar safle filwrol yn Syria ddechrau’r mis.

Mae Iran a Rwsia wedi cyhuddo Israel o fod yn gyfrifol am y cyrch awyr, ond mae Israel wedi gwadu unrhyw ran ynddo.

Mae Israel hefyd yn pryderu am y cynnydd yn nylanwad Iran yn Syria.