Mae trydydd person wedi marw o’i anafiadau yn sgil ymosodiad yn yr Almaen ddechrau’r mis pan gafodd fan ei yrru trwy dorf o bobol.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod y dyn 74 oed o ddinas Hamm wedi marw yn yr ysbyty, a hynny dair wythnos ar ôl i Jens Ruether, 48 oed, yrru ei fan trwy dorf yng nghanol dinas Münster, cyn saethu ei hun yn farw.

Fe gafodd dau berson eu lladd yn y fan a’r lle, a 20 eu hanafu.

Ers yr ymosodiad, mae wedi dod i’r amlwg bod Jens Ruether wedi ceisio am gymorth seicolegol yn yr wythnosau yn arwain at y digwyddiad ar Ebrill 7.

Ond ar y pryd, doedd yr awdurdodau ddim wedi’i ystyried fel bygythiad i’r cyhoedd.