Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, wedi cynnig gweledigaeth sy’n dra wahanol i fydolwg Donald Trump, wrth annerch Cyngres yr Unol Daleithiau.

Er gwaetha’r berthynas glos rhwng y ddau, prif destun yr araith oedd y gwahaniaeth barn rhwng y ddau – yn cynnwys cynhesu byd eang a dêl niwclear Iran.

Gan adleisio slogan Donald Trump, “America yn gyntaf”, fe rybuddiodd Emmanuel Macron rhag “rhith cenedlaetholdeb”.

“Gallwn ddewis camu yn ôl o’r llwyfan rhyngwladol,” meddai. “Mae hynna’n opsiwn a’n temtasiwn. A’n ateb dros dro i’n pryderon.

“Ond trwy gau’r drws ar weddill y byd, dydyn ni ddim yn rhwystro gweddill y byd rhag symud ymlaen. Yn hytrach na lleddfu pryderon ein dinasyddion, mae’n eu llidio nhw.”