Bydd arweinyddion y ddwy Corea yn cyfarfod â’i gilydd ddydd Gwener (Ebrill 27) er mwyn trafod rhaglen niwclear y Gogledd.

Bydd y cyfarfod yn digwydd ym mhentref Panmunjom, a dyma fydd y tro cyntaf ers 1953 i arweinydd o Ogledd Corea ymweld â’r De.

Yn ystod yr ymweliad bydd Kim Jong Un a Moon-Jae-in yn plannu coeden heddwch â’i gilydd, ac yna yn gwledda gyda’r nos.   

Ac yn ymuno â Kim Jong Un ar ei daith bydd naw prif swyddog o Ogledd Corea gan gynnwys ei chwaer ddylanwadol Kim Yo Jong.

Mae pentref Panmunjom yn agos i’r ffin â Gogledd Corea.