Mae Inuka, yr arth wen gyntaf i gael ei geni yn y trofannau, wedi cael ei difa gan filfeddygon yn Singapôr.

Fe fu’n dioddef o salwch yn y sŵ lle’r oedd hi’n byw, ac fe benderfynodd milfeddygon na fydden nhw’n ei dadebru o’i thrwmgwsg ar ôl bod o dan anesthetig. Roedd ei choesau’n rhy wan i’w chynnal, meddai arbenigwyr, a’r arth yn  pwyso dros 500kg.

Dywedodd arbenigwr fod Inuka “mewn cryn dipyn o boen”, ac mai’r “penderfyniad cywir” oedd gadael iddo farw.

Mae’r arth wen yn byw am hyd at 18 o flynyddoedd fel arfer os ydyn nhw’n byw’n wyllt, neu am hyd at 25 mlynedd os ydyn nhw’n byw’n gaeth. Cafodd Inuka ei eni yn 1990.

Dros yr wythnosau diwethaf, fe fu llu o ymwelwyr yn heidio i’r sŵ i’w weld e am y tro olaf, a rhai wedi gadael negeseuon iddo.

Inuka oedd arth wen olaf Singapôr.