Mae’r awdurdodau yn Nicaragwa wedi rhyddhau rhai myfyrwyr gafodd eu harestio yn ystod protestiadau yn erbyn y llywodraeth, ac mae’r Eglwys Gatholig wedi cytuno i fod yn gyfryngwr mewn trafodaethau rhwng y llywodaeth a’r gwrthdystwyr.

Fe ddaw hyn fel rhan o ymdrech gan arlywydd y wlad, Daniel Ortega, i leihau’r tensiwn yn y wlad.

Fe gafodd y myfyrwyr – gyda’u pennau wedi’u heillio a rhai yn dwyn cleisiau ar ol cyfnod dan glo – eu rhyddhau a’u gadael ar fin y draffordd ar gyrion y brifddinas ddoe.

Mewn datganiad, mae’r heddlu’n dweud fod y myfyrwyr wedi’u rhyddhau i ofal eu teuluoedd a chymunedau crefyddol.

Mae’r Cardinal Leopoldo Brenes, ar ran yr Eglwys Gatholig, wedi cadarnhau y bydd yn ymddwyn “fel cyfryngwr a thyst” mewn “deialog genedlaethol” yn Nicaragwa. Mae hefyd wedi galw ar y llywodraeth a’r bobol i ymwrthod â thrais wrth geisio cael eu maen i’r wal.

Mae pump o ddarlledwyr preifat hefyd wedi dychwelyd i’r awyr, wedi i’w signalau gael eu diffodd tra’r oedd protestiadau’r myfyrwyr ar eu hanterth.