Mae cyrchoedd awyr sy’n cael eu harwain gan Saudi Arabia wedi bod yn gyfrifol am ladd tua 20 o bobol mewn parti priodas yng ngogledd Yemen.

Yn ôl Khaled Al-Nadhri, prif swyddog iechyd y rhanbarth gogleddol, Hajja, roedd y rhan fwyaf o’r bobol a gafodd eu lladd yn ferched a phlant a oedd wedi ymgasglu mewn pabell i ddathlu priodas yn ardal Bani Qayis.

Fe ddywedodd fod y briodferch ymhlith y meirw hefyd, ac mae’r priodfab, ynghyd â 45 arall, wedi’u cludo i’r ysbyty yn Al-Jomhouri.

Mae’r ysbyty ers hynny wedi galw am roddwyr gwaed, ac maen nhw’n dweud bod tua 30 o blant ymhlith y dioddefwyr – gyda nifer ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol wael.

Roedd y gwasanaethau brys wedi methu â chyrraedd safle’r briodas ar y cychwyn, oherwydd ofn y bydd rhagor o fomiau’n disgyn o’r awyr, wrth i awyrennau barhau i amgylchynu’r ardal.

Cyrchoedd awyr yn dwysáu

Dyma’r trydydd cyrch difrifol yn Yemen ers y penwythnos.

Dim ond dydd Sul, fe gafodd dŷ cyfan ei ddinistrio yn Hajja, gan ladd teulu cyfan o bump.

Ddydd Sadwrn wedyn, bu farw o leiaf ugain o bobol ger dinas Taiz yng ngorllewin y wlad, ar ôl i awyrennau fomio bws.

Mae Saudi Arabia a’i chynghreiriaid wedi bod yn ymladd gwrthryfelwyr Shiite, sy’n cael eu hadnabod fel ‘Houthis’, ers 2015.

Hyd yn hyn, mae’r rhyfel wedi lladd dros 10,000 o bobol.