Mae’r awdurdodau wedi dal y dyn sy’n cael ei amau o fod wedi cychwyn tân mewn adeilad tri llawr yn y wlad, gan ladd 18 o bobol ac anafu pump.

Yn ôl y swyddfa dros ddiogelwch y cyhoedd yn Qingyuan City yn rhanbarth Guangdong, mae’r heddlu wedi arestio dyn 32 oed o’r enw Liu Chunlu.

Roedd yr awdurdodau eisoes wedi cynnig gwobr gwerth 200,000 yuan (£22,000) i unrhyw un a fyddai’n darganfod y dyn a gynheuodd y tân yn ystod oriau mân y bore heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 24).

Yn ôl y swyddfa ddiogelwch, roedd gan Liu Chunlu losgiadau ar ochr ei gorff, ac er nad ydyn nhw wedi cadarnhau beth oedd ei resymau dros gyflawni’r weithred, mae’r cyfryngau yn Tseinia’n dweud mai ffrae mewn parlwr karaoke oedd yr achos.

Mae’n debyg bod Liu Chunlu wedi rhwystro unig fynediad yr adeilad gyda’i feic modur, cyn gosod y lle ar dân.

Fe gafodd y tân ei ddiffodd gan y gwasanaethau brys toc cyn 1yb, gyda’r rheiny a oedd wedi’u hanafu yn cael eu cludo i’r ysbyty.