Mae deg o bobol wedi’u lladd a 15 wedi’u hanafu gan gerbyd wnaeth blymio mewn i dorf o bobol yn Toronto, Canada.

Aeth y gyrrwr, Alek Minassian, 25, ar ffo yn dilyn y digwyddiad, ond cafodd ei ddal a’i arestio gan yr heddlu.

Yn ôl tystion, roedd y weithred yn un fwriadol.

Mae’r awdurdodau wedi awgrymu nad gweithred frawychol oedd hi, ac mae bwriad y gyrrwr yn parhau’n aneglur.

Digwyddodd y weithred tra bod cynrychiolwyr rhyngwladol yng Nghanada yn paratoi at gynhadledd G7 yno fis Mehefin.   

“Rydym yn cydymdeimlo â phawb a gafodd eu heffeithio,” meddai Prif Weinidog Canada, Justine Trudeau.

“Bydd yn rhaid i ni ddysgu rhagor am y digwyddiad dros yr oriau nesaf.”