Mae hunan-fomiwr wedi taro canolfan gofrestru etholwyr yn Kabul, prifddinas Afghanistan, gan ladd o leiaf 12 o bobl.

Cafodd o leiaf 57 arall eu hanafu yn yr ymosodiad y bore yma.

Mae’r Taliban wedi gwadu cyfrifoldeb, a’r amheuaeth yw mai cangen leol o’r Wladwriaeth Islamaidd oedd y tu ôl i’r ymosodiad.