Mae prif weinidog Iwerddon, Leo Varadkar, yn galw ar etholwyr ei wlad i bleidleisio dros ddiddymu’r gwaharddiad ar erthylu sy’n rhan o gyfansoddiad y Weriniaeth.

Mewn theatr yn Nulyn heddiw, roedd y Taoiseach yn lansio ymgyrch dros bleidlais o blaid newid mewn refferendwm ar 25 Mai.

Dyna pryd y bydd y Gwyddelod yn cael dewis cadw neu ddiddymu Wythfed Gwelliant y cyfansoddiad, sy’n golygu bod bywyd y fam a’r plentyn yn ei chroth yn gyfwerth.

Ar hyn o bryd nid yw erthyliad ar gael yn y Weriniaeth ond pan mae bywyd y fam mewn perygl, ond nid mewn achosion o abnormaledd y ffetws, treisio na llosgach.

“Dw i’n galw am bleidlais o blaid oherwydd dw i’n ymddiried mewn merched,” meddai’r Taoiseach.

Er bod yr Eglwys Babyddol yn ymgyrchu’n gryf dros bleidlais Na yn y refferendwm, nid yw ei grym a’i dylanwad yr hyn a fu.