Mae’n ymddangos bod cyn-arweinydd Zimbabwe mewn picil, yn sgil sylwadau ganddo am ysbeilio diemwntau.

Tra’r oedd ef mewn grym, honnodd Robert Mugabe bod gwerth £10.5 biliwn o ddiemwntau wedi eu dwyn o ddwyrain y wlad.

Ag yntau bellach wedi ymddiswyddo – a hynny’n sgil ymyrraeth gan y fyddin – mae pwyllgor o senedd Zimbabwe wedi galw arno i esbonio’r sylwadau.

Dyma’r tro cyntaf i gorff cyhoeddus graffu ar y ffigwr ers yr 1980au, pan ddaeth ef i rym.

Mae Robert Mugabe yn mynnu nad oedd sail gadarn i’r sylwadau. Nid yw’n glir os fydd yn ymateb i’r alwad gan y pwyllgor.