Fe fydd myfyrwyr yn yr Unol Daleithiau yn cofio’r rhai sydd wedi dioddef mewn digwyddiadau yn ymwneud a gynnau mewn cyfres o brotestiadau.

Maen nhw’n pwyso am reolau llymach yn ymwneud a gynnau.

Mae’r brotest ddiweddaraf wedi’i threfnu ar gyfer heddiw (dydd Gwener) i nodi 19 mlynedd ers y saethu yn Ysgol Columbine yn Littleton, Colorado pan gafodd 13 o bobl eu lladd.

Yn ôl y trefnwyr mae  mwy na 2,600 o ddigwyddiadau wedi cael eu trefnu, o Maine i Hawaii.

Dywedodd nifer o fyfyrwyr y byddan nhw’n gwisgo lliwiau oren ac yn gadael eu dosbarthiadau am 10yb cyn munud o dawelwch i gofio dioddefwyr Columbine a digwyddiadau eraill.

Daw’r protestiadau gan bobl ifanc yn sgil y saethu yn Ysgol Uwchradd Marjory Stoneman Douglas yn Parkland, Florida ar 14 Chwefror.