Mae cannoedd o wrthryfelwyr, a oedd yn brwydro mewn tre’ i’r gogledd-ddwyrain o Damascus, wedi ildio i’r awdurdodau, yn ôl Llywodraeth Syria.

Mae cytundeb wedi cael ei ffurfio rhwng y gwrthryfelwyr a lluoedd y llywodraeth yn nhref Dumayr, ac o dan y cytundeb hwnnw, mae gan y gwrthryfelwyr a’u teuluoedd yr hawl i symud at diroedd sy’n cael eu dal gan Fyddin Islam yng ngogledd y wlad.

Yn ôl y cyfryngau yn Syria, mae disgwyl heddiw (Ebrill 19) i 1,500 o wrthryfelwyr, ynghyd â 3,500 o’u teuluoedd, i adael Dumayr ar gyfer y dref Jarablus ger y ffin â Thwrci.

Mae tref Dumayr wedi’i lleoli ym mynyddoedd Qalamoun, ger y rhanbarth ddwyreiniol, Ghouta, a ddaeth o dan reolaeth y llywodraeth yr wythnos ddiwetha’ yn dilyn brwydro a barodd wythnosau.

Dyw’r dre’ ddim yn bell o Duma, lle mae honiadau bod y llywodraeth wedi defnyddio arfau cemegol yno.