Mae heddlu’r Eidal wedi arestio 22 o aelodau’r Maffia, fel rhan o’u hymgyrch wrth geisio dod o hyd i un o arweinwyr amlyca’r wlad, Matteo Denaro.

Fe gafodd cyrchoedd eu cynnal yn rhanbarth Trapani yng ngorllewin Sisili heddiw.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod yn awyddus i ddal Matteo Denaro, sydd ar herw ers 1993, gan mai ef sy’n cael ei ystyried yn olynydd i ‘Fos y Bosus’, Salvatore ‘Toto’ Riina a fu farw y llynedd. Roedd wedi’i garcharu am gyfres o 26 o ddedfrydau oes.

Dyma’r ymgyrch ddiweddaraf i geisio dal Matteo Denaro, 55, sy’n cael ei amau o ladd ynadon yn y 1990au, ynghyd â throseddau eraill yn ymwneud â’r Maffia.