Mae llywdoraeth Cuba wedi enwebu y dirprwy arlywydd, Miguel Mario Diaz-Canel Bermudez, fel yr unig ymgeisydd ar gyfer swydd arlywydd.

Mae hynny’n gwneud yn siwr mai’r peiriannydd 57 oed fydd yn olynu Raul Castro, 86.

Mae’n rhaid i’r enwebiad gael ei gadarnhau gan y 604 o gynadleddwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol, ond does dim disgwyl iddo gael ei wrthod.

Mae Salvador Valdes Mesa, cyn-swyddog undeb 72  oed, wedi’i enwebu, wedyn, i olynu Miguel Mario Diaz-Canel Bermudez.

Mae Raul Castro yn ymddeol, wedi dau dymor pum mlynedd yn y brif swydd. Roedd yntau wedi olynu ei frawd, Fidel Castro, a fu’n arwain Cuba rhwng 1959 a 2006.