Mae daeargryn gradd 5.5 wedi taro de Iran heddiw (dydd Iau, Ebrill 19), a hynny nid nepell o’r fan lle mae unig orsaf niwclear y wlad.
Fe darodd y daeargryn tua 60 milltir i’r dwyrain o Bueshehr, lle mae Gorsaf Niwclear Bushehr.
Dyw’r cyfryngau yn Iran ddim wedi adrodd bod yna ddifrod wedi’i achosi’r gorsaf, sydd wedi cael ei adeiladu i wrthsefyll daeargrynfeydd.
Yn ôl arbenigwyr, roedd canolbwynt y daeargryn ddim yn bell o dref Kaki.
Roedd pobol yn Bahrain, ynys ger Sawdi Arabia, yn dweud ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod nhw wedi teimlo’r daeargryn, a bu raid iddyn nhw ffoi o adeiladau uchel.