Mae dau weinidog yng Nghatalwnia wedi lladd ar farnwriaeth Sbaen yn ystod gwrandawiad gerbron yndon.

Cafodd Josep Rull a Raul Romeva eu carcharu am eu rhan yn y refferendwm annibyniaeth fis Hydref y llynedd.

Cawson nhw wybod yn ystod y gwrandawiad ddoe eu bod nhw’n wynebu cyhuddiadau o wrthryfela ac o gamddefnyddio arian, dwy drosedd a allai eu gweld nhw’n cael eu carcharu am hyd at 30 o flynyddoedd.

Ar hyn o bryd, mae naw o arweinwyr o blaid annibyniaeth wedi’u carcharu, a saith wedi ffoi o’r wlad oherwydd nad oedden nhw’n teimlo y bydden nhw’n cael achos llys teg.

Josep Rull

Roedd Josep Rull wedi codi amheuon am y ffordd y mae Sbaen yn rheoli Catalwnia ac am annibyniaeth y Goruchaf Lys a dylanwad Llywodraeth Sbaen ar y llys hwnnw.

Fe gyhuddodd e’r barnwr o ddilyn agenda Sbaen yn ystod y gwrandawiad.

Fe ddywedodd fod rhesymau gwleidyddol tros ei erlyn, ac y byddai’n parhau i frwydro tros annibyniaeth er lles ei blant.

Raul Romeva

Dywedodd cyn-Weinidog Tramor, Raul Romeva fod y broses o ddwyn y cyn-weinidogion gerbron llys yn un anghyfreithlon.

Roedd yn honni bod hawl gan y rhai sy’n llunio’r gyfraith i drafod unrhyw beth yn siambr Catalwnia am fod ganddyn nhw “imiwnedd seneddol”.

Mae’n gwadu cymryd rhan mewn gweithgarwch treisgar, gan fynnu bod yr holl brotestiadau hyd yma wedi bod yn heddychlon.

Dywedodd nad oes gan y barnwr y grym i’w gadw dan glo, ac nad oes ganddo yntau yr hawl i amddiffyniad teg.

Mae tri chyn-weinidog arall – Jordi Sanchez, Jordi Cuixart ac Oriol Junqueras hefyd wedi beirniadu’r farnwriaeth.

Carcharorion

Cafodd Josep Rull a Raul Romeva eu carcharu ar Fawrth 23. Dyma’r ail waith iddyn nhw fod dan glo ers mis Tachwedd.

Mae’r cyn-Weinidog Materion Cartref, Joaquim Forn yn y carchar ers Tachwedd 2. Ond mae wedi gofyn am gael ei ryddhau am nad yw’n peri perygl i Sbaen.