Mae Barbara Bush, gwraig y cyn-Arlywydd George Bush a mam y cyn-Arlywydd George W Bush, wedi marw.

Roedd hi’n 92 oed ac yn cael ei hadnabod am ei ffordd anffurfiol ac am ei hymrwymiad i godi safonau llythrennedd.

Roedd hi a’i gŵr wedi bod yn briod am 73 o flynyddoedd – y briodas hwyaf rhwng Arlywydd a’i wraig yn hanes yr Unol Daleithiau.

Disgrifiodd hi’r profiad o fod yn wraig i Arlywydd fel y “swydd orau yn America” mewn llyfr yn 1994. Dywedodd fod “pob dydd yn ddiddorol, yn werthfawr ac weithiau jyst yn hwyl”.

Yn y llyfr hwnnw, dywedodd ei bod hi’n anghytuno â phenderfyniadau ei gŵr ar ddau achlysur pan oedd yn Arlywydd – roedd hi’n cefnogi erthyliadau cyfreithlon ac yn gwrthwynebu gwerthu arfau.

Ond dywedodd mai barn ei gŵr yn unig oedd yn bwysig.

Cyfeiriai’n aml at ei gŵr fel ei “harwr” – ond roedd hithau weithiau’n cael ei galw’n fam iddo yn hytrach nag yn wraig oherwydd ei hymddangosiad.

Roedd ganddyn nhw chwech o blant i gyd – ond bu farw’r chweched, Robin yn dair oed yn 1953.