Mae gweriniaethwyr yn Awstralia wedi galw am refferendwm ynglŷn â chadw aelod o deulu brenhinol Lloegr yn bennaeth ar eu gwlad.

Daw hyn wrth i wledydd y Gymanwlad ystyried ai aelod o’r teulu brenhinol a ddylai fod yn bennaeth ar y corff rhyngwladol hefyd.

Fe fydd cyfarfod yn cael ei gynnal rhwng Prif Weinidog Prydain, Theresa May, ac arweinwyr gwledydd y Gymanwlad yng Nghastell Windsor ddiwedd yr wythnos.

Yn ôl llefarydd ar ran y Prif Weinidog, mae disgwyl y bydd y mater o ddewis pennaeth newydd ar gyfer y Gymanwlad yn cael ei drafod gan y 53 arweinydd yn y cyfarfod.

“Fe ddylen ni benderfynu”

Mae Mudiad Gweriniaethol Awstralia wedi dweud ei bod yn “warth” nad yw pobol Awstralia yn cael yr un cyfle i ddewis arweinydd.

Maen nhw’n galw am refferendwm gyda’r bwriad o gael trefn newydd – ac arlywydd yn hytrach nag aelod o’r teulu brenhinol – erbynm 2019.

“Os yw Cyfarfod Arweinwyr Llywodraethau’r Gymanwlad (CHOGM) yn trafod olyniaeth – ac os yw’r teulu brenhinol ei hun yn barod i wneud trefniadau ar gyfer y cyfnod ar ôl teyrnasiad y frenhines – yna dylai Awstralia yn sicr wneud yr un peth,” meddai llefarydd ar ran y mudiad.

Yn ôl pôl piniwn diweddar, mae 50% o bobol Awstralia o blaid y syniad o droi Awstralia’n weriniaeth, tra bo 41% am gadw pethau fel y mae.

Pennaeth y Gymanwlad

Mae’r Frenhines wedi bod yn bennaeth ar y Gymanwlad ers 1952, ond ar ôl ei chyfnod hi, dyw hi ddim yn angenrheidiol y bydd y Brenin yn ei dilyn.

Mae’r penderfyniad am hynny yn nwylo arweinwyr y Gymanwlad, sydd â’r hawl i ddewis rhywun y tu fas i deulu brenhinol Lloegr.