Mae arbenigwyr ar arfau cemegol yn dweud bod milwyr o Syria a Rwsia’n eu rhwystro rhag cyrraedd safle ymosodiad cemegol honedig yn nhref Douma ger Damascus.

Fe ddywedodd pennaeth y corff sy’n cyflogi’r arbenigwyr – y Corff tros Wahardd Arfau Cemegol – eu bod yn y wlad ers deuddydd ond heb gael mynd yn agos eto at safle’r ymosodiad.

Yn ôl llywodraeth Rwsia ymosodiadau o’r awyr gan wledydd y Gorllewin sydd wedi ei gwneud hi’n amhosib i hynny ddigwydd – roedd y rheiny’n gosb am yr ymosodiad cemegol.

‘Dim ymyrryd’

Mae’r Rwsiaid hefyd yn gwrthod honiadau y bydd yr oedi’n golygu eu bod wedi ymyrryd â thystiolaeth.

Mae’r Unol Daleithiau a Ffrainc yn dweud bod ganddyn nhw dystiolaeth bendant bod nwyon gwenwynig wedi eu defnyddio yn Douma, ond dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi’r wybodaeth.

Mae Rwsia a Syria’n gwadu bod cemegau wedi eu defnyddio.