Mae cyn-gyfarwyddwr y FBI wedi honni bod Donald Trump yn “foesol anghymwys” i fod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Fe wnaeth James Comey yr honiad mewn cyfweliad ar ABC News neithiwr i gyd-fynd â lansiad ei lyfr newydd, gan ddweud hefyd bod yr Arlywydd yn “gelwyddgi” ac yn trin menywod “fel cig”.

Yn y cyfweliad hwnnw, fe ddywedodd hefyd ei bod yn “bosib” bod gan Rwsia “wybodaeth” a fyddai’n rhoi Donald Trump mewn lle anodd a bod yna dystiolaeth fod yr Arlywydd wedi ymyrryd yng nghwrs cyfiawnder.

“Celwyddgi”

Mae’r cyfweliad yn rhan o frwydr hir rhwng Donald Trump a James Comey ar ôl iddyn nhw ffraeo’n gyhoeddus sawl gwaith.

Oriau cyn darlledu’r cyfweliad, fe ddywedodd Donald Trump mewn cyfres o drydariadau ar y wefan gymdeithasol, Twitter, fod James Comey yn “gelwyddgi”.

Awgrymodd hefyd y dylai’r cyn-gyfarwyddwr gael ei roi yn y carchar, ac mai fe yw “cyfarwyddwr gwaethaf yr FBI erioed – o bell ffordd”.

Yn y cyfweliad neithiwr, fe awgrymodd James Comey gallai’r Arlywydd gael ei uchelgyhuddo ond y byddai’n well i bobol yr Unol Daleithiau ei wrthod mewn etholiad.

Y cefndir

Fe gafodd James Comey ei ddiswyddo gan yr Arlywydd fis Mai y llynedd, gan chosi anrhefn yn yr Adran Gyfiawnder a hynny’n arwain at benodi Robert Mueller yn gwnsler arbennig sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad i honiadau bod Rwsia wedi ymyrryd yn yr etholiad arlywyddol yn 2016.

Mae’r ymchwiliad bellach yn ystyried a wnaeth Donald Trump atal cyfiawnder trwy ddiswyddo James Comey a, hyd yn hyn, mae 19 o bobol wedi’u harestio.