Roedd y cyrchoedd awyr tros Syria nos Wener “yn seiliedig ar gelwydd”, yn ôl arlywydd y wlad, Bashar Assad.

Fe wnaeth y cyhuddiadau yn erbyn y Cenhedloedd Unedig wrth siarad â gwleidyddion o Rwsia, ac fe gafodd ei sylwadau eu crybwyll yng nghyfryngau’r wlad.

Mae Syria a Rwsia yn gwadu defnyddio arfau cemegol, sef y rheswm pam fod Prydain, yr Unol Daleithiau a Ffrainc wedi cynnal y cyrchoedd awyr.

Cafodd mwy na 40 o bobol eu lladd yr wythnos ddiwethaf yn dilyn ymosodiad cemegol ar ddinas Douma.