Mae brwydro ffyrnig ar y ffin rhwng Pacistan ac Afghanistan.
Fe ddechreuodd y brwydro ar ôl i luoedd Pacistan fentro dros y ffin i dalaith Khost yn nwyrain Afghanistan.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd faint o bobol sydd wedi’u lladd.
Mae llinell Durand, sy’n 1,500 milltir o hyd, yn gwahanu’r ddwy wlad ers 1896.
Ond dydy Afghanistan ddim yn ei chydnabod fel ffin ac maen nhw’n gwrthwynebu ymdrechion Pacistan i atgyfnerthu’r llinell fel ffin rhwng y ddwy wlad.