Mae Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi wfftio cwynion Rwsia fod y cyrchoedd awyr tros Syria yn rhy “ymosodol”.

Dim ond tair gwlad – Rwsia, Tsieina a Bolifia oedd wedi cefnogi’r cynnig ar ddiwedd cyfarfod brys o’r Cyngor ddydd Sadwrn – cyfarfod a gafodd ei alw gan Rwsia. Pleidleisiodd wyth gwlad yn erbyn y cynnig, a thair gwlad wedi ymatal.

Mae angen o leiaf naw pleidlais cyn bod cynnig yn cael ei gymeradwyo.

Cynhaliodd yr Unol Daleithiau, Prydain a Ffrainc gyrchoedd yn dilyn yr ymosodiad cemegol ar ddinas Douma yr wythnos ddiwethaf, pan gafodd 41 o bobol gyffredin eu lladd.

Roedd Llysgennad Rwsia i’r Cenhedloedd Unedig wedi cwyno fod yr ymosodiad wedi digwydd heb aros am ganlyniadau ymchwiliad, ac maen nhw wedi cyhuddo’r tair gwlad o “hwliganiaeth”.

Dywedodd llysgennad yr Unol Daleithiau fod y neges sy’n deillio o’r cyrchoedd yn “glir fel crisial”, sef na fyddan nhw’n godde’r defnydd gan yr Arlywydd Bashar Assad o arfau cemegol. Roedd hi hefyd wedi cyhuddo Rwsia o amddiffyn arlywydd Syria.

Mae disgwyl i’r tair gwlad gyflwyno cynnig maes o law i fynd i’r afael â sefyllfa Syria.