Mae Arlywydd Ffrainc yn honni bod ganddyn nhw dystiolaeth bod Llywodraeth Syria wedi defnyddio o leia’ un cemegyn mewn ymosodiadau yn ystod y dyddiau diwetha’.

Roedd yna brawf fod clorin wedi ei ddefnyddi, meddai Emmanuel Macron, ond wnaeth o ddim dweud a fyddai Ffrainc yn ymuno mewn ymosodiadau posib ar y wlad.

Mewn cyfweliad teledu, fe ddywedodd na fyddai am wneud dim i wneud pethau’n waeth yn y rhanbarth ond mae wedi sôn cyn hyn am daro’r arfau cemegol eu hunain.

Na, meddai Merkel

Ar yr un pryd,  mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi dweud yn blaen na fydd eu lluoedd nhw yn cymryd rhan mewn ymosodiad – er eu bod o blaid “rhoi neges” i’r Arlywydd Assad yn Syria nad ydi arfau cemegol yn dderbyniol.

Fe allai safbwyntiau’r ddwy wlad fod yn arwyddocaol wrth i Gabinet Llywodraeth Prydain ystyried eu safiad nhwthau mewn cyfarfod arbennig y prynhawn yma.

Y disgwyl yw y bydd yr Arlywydd Trump yn yr Unol Daleithiau yn awyddus i weithredu ac y bydd yn chwilio am gefnogaeth.