Mae dros gant o bobol wedi’u lladd mewn damwain awyren yn Algeria.

Mae asiantaeth newyddion yn y wlad yn adrodd am awyren filwrol yn plymio i’r ddaear ger safle milwrol Boufarik.

Yn ôl y gwasanaeth Algerie Presse, roedd yr awyren o fath Iliouchine yn anelu am Bechar yn ne-orllewin Algeria.

Mae’r gwasanaethau brys ar y safle ar hyn o bryd.

Mae Boufarik yng ngogledd Algeria, ger y Môr Canoldir, 20 milltir o’r brifddinas, Algiers.