Mae bachgen saith mis oed wedi marw yn yr Almaen, ar ôl iddo gael ei gnoi gan gi’r teulu.

Yn ôl yr heddlu yn rhanbarth Hesse yn ne’r Almaen, nid ydyn nhw’n siŵr pam yn union yr ymosododd y ci ar y baban. Mae’r ci erbyn hyn wedi cael ei gludo i loches anifeiliaid, lle mae wedi’i ddisgrifio yn anifail “peryglus”.

Fe alwodd y tad, sy’n 23 oed, y gwasanaethau brys yn syth yn dilyn y digwyddiad, ac er i’r bachgen fod mewn cyflwr sefydlog ar ôl cael ei gludo i’r ysbyty, bu farw’n ddiweddarach yn y nos.

Problem cŵn

Bu’r digwyddiad hwn yn ardal Bad Koenig, sydd tua 28 milltir i’r de-ddwyrain o Frankfurt, bron i wythnos ar ôl i fam a’i mab gael eu lladd yng ngogledd yr Almaen.

Fe gafodd dynes 52 oed a’i mab 27 oed eu lladd gan eu terrier Swydd Stafford yn Hannover ar Ebrill 3.

Er nad yw’r heddlu yn Hesse wedi gallu cadarnhau pa fath o gi a oedd yn gyfrifol am ladd y bachgen saith mis oed, mae lle i gredu bod ganddo waed terrier Swydd Stafford.

Mae gan y 16 rhanbarth yn yr Almaen wahanol reolau ynglŷn â chadw bridiau penodol o gŵn. Ond yn y rhan fwyaf ohonyn nhw mae’n orfodol i bobol gael trwydded arbennig i gadw terrier Swydd Stafford.

Yn ôl y swyddfa ystadegol ffederal yn yr Almaen, mae 64 o bobol yn y wlad wedi cael eu lladd gan gŵn rhwng 1998  2015.