Mae pump o weithwyr parc cenedlaethol yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo wedi cael eu lladd mewn ymosodiad.

Yn ogystal, mae chweched gweithiwr o Barc Cenedlaethol Virunga wedi cael ei anafu, a gyrrwr wedi cael ei ladd.

Mae’r parc yn gartref i chwarter o gorilas mynydd gwyllt y byd, ond mae’r creaduriaid yn cael eu bygwth gan botswyr a datgoedwigo.

Gwrthryfelwyr sy’n rheoli’r diwydiannau yma er mwyn ariannu eu gwrthryfel, ac mae’n debygol mai’r milwyr yma wnaeth ladd y gweithwyr parc, yn ôl yr awdurdodau.