Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi beirniadu cyrch FBI ar swyddfeydd ei gyfreithiwr, gan alw’r sefyllfa yn un “warthus”.

Cafodd chwiliadau eu cynnal yn swyddfa Michael Cohen yn Efrog Newydd, ddydd Llun (Ebrill 10).

Yn ôl tîm cyfreithiol Michael Cohen, mi wnaeth y Cwnsel Arbennig, Robert Mueller, gefnogi’r cyrch, a chafodd “gohebiaeth â chleientiaid” ei gipio yn ei sgil.

Mae Robert Mueller wrthi yn cynnal ymchwiliad i ymyrraeth honedig Rwsia yn ystod etholiad arlywyddol 2016. “Ymosodiad” ar America yw’r broses, yn ôl Donald Trump.

Stormy Daniels

Mae Michael Cohen eisoes wedi bod dan y lach am dalu £92,000 i’r actores bornograffig, Stormy Daniels – Stephanie Clifford yw ei henw go iawn – dyddiau cyn etholiad arlywyddol 2016.

Ac yn ôl adroddiadau’r wasg yn yr Unol Daleithiau, roedd dogfennau’n gysylltiedig â’r taliad yma ymhlith y deunydd wnaeth gael ei gymryd gan swyddogion yn y cyrch.

Mae Stormy Daniels yn honni iddi gael rhyw â Donald Trump wedi i wraig yr Arlywydd, Melania Trump, rhoi genedigaeth i’w mab. Ac mae’n honni iddi gael ei thalu i gadw’n dawel.