Ddiwrnod yn unig ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar yn yr Almaen, mae cyn-arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont yn galw ar i Sbaen drafod annibyniaeth.

Dywedodd wrth newyddiadurwyr ei fod yn gobeithio y bydd y penderfyniad i beidio â’i estraddodi i Sbaen i wynebu cyhuddiadau o wrthryfela yn dangos bod “angen trafod” i ddod â’r anghydfod i ben.

Dywedodd fod “cyfle newydd am drafodaeth”, a bod angen egluro safbwynt Catalwnia wrth Sbaen.

Cafodd ei arestio bythefnos yn ôl am ei ran yn refferendwm annibyniaeth Catalwnia fis Hydref y llynedd.

Mae’n dal i wynebu’r posibilrwydd o gael ei estraddodi ar gyhuddiad o gamddefnyddio arian, a allai arwain at wyth mlynedd o garchar. 30 mlynedd dan glo yw’r gosb fwyaf am wrthryfela.

Dywedodd Carles Puigdemont ei fod yn bwriadu aros yn Berlin tan ddiwedd yr achos i geisio’i estraddodi. Y gred yw y gallai ddychwelyd i Wlad Belg wedyn.