Mae Gweinidog Cyfiawnder yr Almaen, Katarina Barley wedi canmol y penderfyniad i ryddhau cyn-arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont ar fechnïaeth.

Cafodd ei arestio bythefnos yn ôl ar ôl i warant gael ei gyhoeddi, ac yntau’n wynebu cyhuddiadau o wrthryfela ac o annog gwrthryfel mewn perthynas â refferendwm annibyniaeth Catalwnia fis Hydref y llynedd.

Ond penderfynodd llys yn yr Almaen nad oedd yn briodol ei estraddodi i wynebu cyhuddiad o wrthryfela – does dim modd cosbi’r drosedd yn y wlad honno. Ond fe allai gael ei estraddodi i wynebu cyhuddiad o gamddefnyddio arian – sy’n drosedd lai difrifol o lawer.

Dywedodd Katarina Barley wrth bapur newydd Süddeutsche fod y penderfyniad i’w ryddhau’n “hollol gywir”, gan ychwanegu na fyddai’n “hawdd” profi fod Carles Puigdemont yn euog o dwyll ariannol.