Mae arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan, yn dweud y bydd ei fyddin yn “dal ati” yn ei hymdrech i gael gwared â gwrthryfelwyr Cwrdaidd wrth geisii dod â’r ymladd yn Syria i ben.

Fe ddaw ei sylwadau wrth i arweinwyr Twrci, Rwsia ac Iran gyfarfod i drafod dyfodol y wlad.

Mae’r tri gwleidydd wedi cytuno i weithio gyda’i gilydd i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen yn Syria – ac maen nhw wedi galw ar y gymuned ryngwladol i roi mwy o gymorth dyngarol i’r wlad sydd wedi’i chwalu gan ryfel.

Mae Recep Tayyip Erdogan, Vladimir Putin o Rwsia, ynghyd ag arlywydd Iran, Hassan Rouhani, wedi bod yn cyfarfod am yr ail waith i drafod dyfodol Syria.

Yn ôl Mr Erdogan, fe fydd ei fyddin yn symud i’r dwyrain o Afrin – lle maen nhw’n dal grym ar hyn o bryd – i mewn i Manbij ac ardaloedd eraill sy’n cael eu rheoli gan wrthryfelwyr YPG, ac sy’n cael eu cefnogi gan America.

Mae Twrci yn ystyried y Cwrdiaid hyn yn frawychwyr.

“Fyddwn ni ddim yn ildio nes y byddwn ni wedi gwbeud yr holl ardaloedd sy’n cael eu rheoli gan yr YPG yn ddiogel, gan ddechrau yn Manbij,” meddai Recep Erdogan.

Mae hefyd yn dweud y bydd ei fyddin yn rhan o’r ymdrech i gael gwared â’r Wladeriaeth Islamaidd (IS) o’r wlad.