Mae arlywydd Israel wedi canslo cytundeb gyda’r Cenhedloedd tros ail-gartrefu mewnfudwyr o Affrica.

Fe ddaw’r penderfyniad wedi i aelodau o lywodraeth glymblaid Benjamin Netanyahu ddwyn pwysau arni i roi’r gorau i’r fargen.

Mae wedi cyhoeddi na fydd dêl, oriau wedi gwneud y cyhoeddiad ar deledu ei wlad. Mae’n aros nawr i gyfarfod â thrigolion de Tel Aviv yn ddiweddarach y mis hwn, sydd â phoblogaeth fawr o fewnfudwyr yn ne’r ddinas.

Yn syth wedi’r cyhoeddiad, fe aeth Naftali Bennett, arweinydd y blaid Jewish Home, ar wefan gymdeithasol Twitter i ddweud y byddai’r cytundeb “yn ddrwg i Israel”.

A dyna arweiniodd at y cyhoeddiad fore heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 3) gan Benjamin Netanyahu y byddai’r cytundeb yn cael ei “ganslo yn llwyr”.