Mae awdurdodau Malaysia wedi rhwystro cwch yn cario 56 o Fwslimiaid Rohingya o Myanmar (Burma).

Mae pennaeth y llynges wedi cadarnhau fod y cwch wedi dod i mewn i ddyfroedd Malaysia, gan ddod i’r lan yn Langkawi ar arfordir gogleddol yr ynys.

Ddydd Sul, fe gafodd y llong ei stopio am gyfnod yn ne Gwlad Thai, lle cafodd ei thrwsio a’i ail-lenwi â thanwydd.

Roedd y llwyth diweddaraf o ffoaduriaid wedi blino’n llwyr ac yn newynog.

Mae’r 19 o ferched, 17 o ddynion, 12 o fechgyn ac wyth o ferched bach, wedi cael eu bwydo ac wedi cael dwr, cyn y byddan nhw’n cael eu trosglwyddo i ofal yr awdurdod mewnfudo.