Mae daeargryn nerthol 6.8 wedi taro Bolifia, er bod yr awdurdorau yn dweud nad oes unrhyw adroddiadau eto o anafiadau na difrod mawr.

Fe ddechreuodd yr ysgwyd am 10.40yb ddydd Llun (Ebrill 2), gyda’r canolbwynt rhyw 200 o filltiroedd i’r de-orllewin o Tarija.

Roedd y canolbwynt dros 300 o filltiroedd o dan wyneb y ddaear.