Mae arlywydd yr Aifft, Abdel-Fattah El-Sissi, wedi ennill ail dymor pedair blynedd yn ei swydd, ar ol ennill dros 97% o’r bleidlais yn etholiad yr wythnos diwethaf.

Roedd 41.05% o’r rheiny sy’n gymwys i bleidleisio, wedi troi allan i fotio.

Doedd gan Abdel-Fattah El-Sissi ddim gwrthwynebydd go iawn, wedi i res o ymgeiswyr dynnu allan o’r res neu gael eu harestio.

Roedd ei unig wrthwynebydd, Moussa Mustafa Moussa, yn un o’i gefnogwyr.