Mae cyfryngau Sbaen yn “pwysleisio” lefel y trais mewn protestiadau gan genedlaetholwyr Catalwnaidd, yn ôl ymgyrchydd.

Ddydd Mawrth (Mawrth 27) fe aeth protestwyr ati i gau ffyrdd a thraffyrdd yng Nghatalwnia, er mwyn lleisio’u gwrthwynebiad i’r ffordd y mae rhai gwleidyddion cenedlaetholgar wedi cael eu trin gan yr awdurdodau.

Mae cyfryngau Sbaen yn cynnig darlun o weithgarwch tanllyd – gyda phapur El Pais ym Madrid yn sôn am bobol sy’n gwrthwynebu annibyniaeth yn cael dioddef pob math “aflonyddu”.

Ond, yn ôl Begotxu Olaizola sy’n cynrychioli Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia (ANC), “does dim gwir o gwbwl” i’r darlun yma.

Mae’n tynnu sylw at brotest ddiweddar bu iddi fynychu yn ddiweddar, gan nodi bod yr awyrgylch wedi bod yn “heddychlon iawn” er gwaetha’ rhai trafferthion.

Protest

“Gwnaeth rhai pobol ddechrau llosgi biniau sbwriel ar y diwedd – gyda’r nos, pan oedd y brotest wedi gorffen,” meddai yn Gymraeg wrth golwg360.

“A daeth yr heddlu i drio cael nhw i adael. Ond, mae hynna’n ddim byd o gymharu ag faint sydd wedi bod yn protestio heb wneud dim byd.

“Yn ogystal, dydych chi ddim yn medru bod yn sicr ynglŷn â phwy wnaeth wneud hynna. Oherwydd rydyn ni’n gwybod am bobol – heddlu – sydd yn gwisgo fel pobol ifanc radical, ac yn dechrau pethau fel’na.

“Mae hynna wedi digwydd yng ngwlad y Basg… dydi hynna ddim yn beth newydd.”

Heddwch

Mae’n cydnabod bod “lot o rwystredigaeth” ymhlith y bobol, ac yn medru deall pam bod rhai yn teimlo’n “flin” ac yn ymateb yn y fath ffordd.

Er hynny, dydy Begotxu Olaizola ddim yn cefnogi protestio treisgar, ac mae’n canmol mudiadau gan gynnwys ‘En Peu de Pau’ sydd yn annog protestio heddychlon.

“Maen nhw’n pwysleisio mai buddugoliaeth gyntaf Catalwnia yw heddychiaeth – wedyn, annibyniaeth,” meddai.

Gallwch wrando ar Begotxu Olaizola yn crynhoi hyn i gyd islaw…