Mae’r enillydd Gwobr Heddwch Nobel, Malala Yousafzai, yn cyfarfod â Phrif Weinidog Pacistan heddiw, wrth iddi ddychwelyd i’w mamwlad am y tro cynta’ ers iddi gael ei saethu gan y Taliban yn 2012.

Mae’r cyfarfod gyda Shahid Khaqan Abbasi yn digwydd yn Islamabad, yng nghwmni’r Gweinidog Gwybodaeth, Maryam Aurangzeb, hefyd.

Mae gwleidyddion amlwg wedi bod yn disgrifio dychweliad Malala Yousafzai fel gweithred symbolaidd, yn ddarlun o’r modd y gall heddwch drechu eithafiaeth yn y wlad.

Ac mae un o gefndryd y ferch a aeth yn ei blaen, wedi’r ymosodiad yn 2012, i ennill gradd ddosbarth cyntaf yng ngwledydd Prydain, yn disgrifio cael ei berthynas gartref fel “un o ddyddiau hapusaf” ei fywyd.