Mae bron i 70 o bobol wedi marw, wedi i dân ysgubo trwy’r celloedd mewn gorsaf heddlu yn Feneswela.

Y gred ydi fod y tân wedi cynnau yn dilyn cythrwfl yn y carchar yn nhref Valencia yn nhalaith Carabobo tua 100 milltir i’r gorllewin o Caracas.

Mae prif erlynydd y wlad yn dweud mai carcharorion oedd mwyafrif y meirwon. Bu farw dwy ddynes hefyd oedd wedi treulio’r nos yn y celloedd.

Fe gafodd mwy na 100 o garcharorion eu lladd mewn tân yn nhalaith Zulia yn 1994.