Mae Tsieina wedi cadarnhau bod Arweinydd Gogledd Corea wedi ymweld â Beijing.

Dyma’r tro cyntaf i Kim Jong Un ymweld â gwlad arall ers iddo esgyn i bŵer yn 2011, a’r tro cyntaf iddo gyfarfod ag arweinydd arall – Arlywydd Tsieina, Xi Jinping.

Yn ôl asiantaeth newyddion Tsieina, bu’r ddau arweinydd yn gwledda â’i gilydd, a’n gwylio perfformiadau celf yn ystod yr ymweliad pedwar diwrnod o hyd.

 thrafodaethau rhwng Gogledd Corea a’r Unol Daleithiau yn prysur agosáu, mae arbenigwyr yn credu mai ymgynghori â Tsieina oedd nod y daith.

Daw’r trafodaethau yma yn dilyn blwyddyn dymhestlog o brofion arfau niwclear gan Ogledd Corea.