Mae cerflun noeth o Donald Trump yn mynd dan y morthwyl heddiw.

Mae cwmni arwerthwyr Julien’s yn dweud mai dyma’r unig un sy’n weddill o’r cerfluniau bychain a gafodd eu harddangos yn Efrog Newydd, San Francisco, Los Angeles a Cleveland yn yr wythnosau cyn i’r Gweriniaethwr gael ei ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Fe gafodd y gweddill, meddai’r cwmni, eu malu neu eu fandaleiddio.

Y gred ydi y bydd y cerflun – gan y grwp cydweithredol Indecline – yn gwerthu am rhwng $20,000 a $30,000.

Mae’r arwerthiant i gael ei gynnal yn ninas Jersey, New Jersey, ar Fai 2.