Mae Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, wedi dweud bod 14 aelod o’r undeb wedi diarddel staff diplomyddol Rwsia, yn sgil ymosodiad wenwyn ym Mhrydain.

Dywedodd hefyd y byddai rhagor o ddiplomyddion yn cael eu diarddel, ac y byddai rhagor o fesurau’n cael eu cyflwyno dros y dyddiau ac wythnosau nesaf.

Mae’r Weriniaeth Tsiec, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Estonia, Gwlad Pwyl, Lithwania, a’r Eidal ymhlith y gwledydd sydd yn y broses o ddiarddel diplomyddion o Rwsia.

Mae’r Almaen wedi dweud mai cyfleu cefnogaeth at y Deyrnas Unedig yw nod y cam.

Yn y cyfamser mae’r Unol Daleithiau hefyd wedi datgan y byddan nhw’n diarddel 60 diplomydd o Rwsia o’r wlad.

Sergei Skripal

Daw’r gwaharddiadau yn dilyn ymosodiad ar gyn-ysbïwr Rwsiaidd, Sergei Skripal, a’i ferch Yulia, yn ninas Salisbury ar ddechrau’r mis.

Mae’r Deyrnas Unedig yn honni mai Rwsia oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, ac mae’r Llywodraeth eisoes wedi diarddel 23 diplomydd.

Mae Rwsia yn gwadu unrhyw gysylltiad gyda’r ymosodiad.